Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21 Ionawr 2015 i'w hateb ar 28 Ionawr 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith pwysau'r gaeaf mewn ysbytai yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0536(HSS)

2. David Rees (Aberafan):Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl? OAQ(4)0550(HSS)

3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynghorau iechyd cymuned? OAQ(4)0534(HSS)

4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gamau sy'n cael eu cymryd i ddarparu gwasanaethau yn y ffordd orau bosibl mewn gofal sylfaenol i leddfu pwysau ar wasanaethau brys mewn ysbytai? OAQ(4)0543(HSS)

5. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella llif cleifion yn ysbytai GIG Cymru? OAQ(4)0541(HSS)

6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella darpariaeth gofal sylfaenol yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0542(HSS)

7. Alun Ffred Jones AC (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros mewn adrannau brys yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0546(HSS)W

8. Lynne Neagle (Torfaen):Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau dull o ofal sy'n meithrin gwydnwch emosiynol pobl ifanc sy'n gadael gofal? OAQ(4)0549(HSS)

9. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerir i ymdrin â pherfformiad gwael yn erbyn targedau'r GIG yng Nghymru? OAQ(4)0538(HSS)

10. Alun Ffred Jones AC (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses o benderfynu pa gyffuriau trin cancr fydd ar gael yng Nghymru? OAQ(4)0547(HSS)W

11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau nifer y trawiadau angheuol ar y galon mewn menywod? OAQ(4)0548(HSS)

12. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o gyfleusterau preswyl pwrpasol ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0537(HSS)

13. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ganllawiau sydd yn eu lle mewn perthynas â rhoi presgripsiwn am foddion gwrth-iselder i blant o dan 18? OAQ(4)0551(HSS)W

14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol adrannau brys yng Nghymru? OAQ(4)0539(HSS)

15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw yng Nghymru yn 2015? OAQ(4)0535(HSS)

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ynglŷn â chyfeiri’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) i’r Goruchaf Lys? OAQ(4)0072(CG)W

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Swyddogion y Gyfraith eraill ynglŷn â chyfraith amaethyddol? OAQ(4)0073(CG)W

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygu app Cynulliad Cenedlaethol Cymru? OAQ(4)0085(AC)

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am yr hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud i ymgysylltu â phobl ifanc? OAQ(4)0086(AC)W